P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Totterdell ôl casglu 10,560 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi darparu rhaglen gerddoriaeth ac actio i fyfyrwyr iau rhwng 4 a 18 oed ers 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl ifanc dalentog yn mynd drwy ei ddrysau bob penwythnos, ac mae llawer ohonynt ar fwrsari. Dyma’r unig ddarpariaeth o’i math yng Nghymru.

Oherwydd trafferthion ariannol mae’r Coleg yn gorfod ymgynghori ynghylch cau’r rhaglenni actio a cherddoriaeth i bobl ifanc ar ddiwedd y tymor hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Os bydd y rhaglenni’n cau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yr unig Ysgol Cerddoriaeth Frehninol heb adran i fyfyrwyr iau.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru